20 Rhag 2023

Gwobrau Amgylchedd 2023: Enillwyr

Llongyfarchiadau mawr i Paul Colley-Davies, Crispin Flower a Naomi Law - enillwyr Gwobrau Amgylchedd cyntaf erioed i Gymdeithas Rhedwyr Mynydd-dir Cymru (CRhMC)!

Cafodd Paul ei enwebu yn y categori Unigol am feicio i bob ras yng Nghyfres Gaeaf De Cymru y llynedd, gan godi'r cwestiwn o deithio llesol a dewisiadau ras, a rhannu ei brofiadau.

Dywedodd pobl fod ei feicio yn “dipyn o gamp”, ei fod yn “rhywun sy'n gwneud yr hyn mae’n ei ddweud” a bod ei “ymdrech yn haeddu cydnabyddiaeth”. Cytunodd yr holl feirniaid fod Paul yn enillydd teilwng am ei weithredoedd unigol ac am ddod â materion i sylw eraill ac annog gweithredu pellach.

pcd.jpeg
Cafodd Crispin a Naomi eu henwebu ar y cyd ar gyfer categori Trefnydd Ras am hepgor ffioedd parcio yn rasys Brecon Fans ar gyfer y rhai sydd â 3 neu fwy o redwyr yn eu car.

Cytunodd yr holl feirniaid fod y system dalu graddol sydd ganddynt ar gyfer parcio yn fenter wych, o ystyried bod teithio yn cael effaith fawr ar newid hinsawdd. Daeth eu syniad o'r Canllawiau Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd, sy'n tanlinellu pwysigrwydd gwneud mentrau fel hyn yn fwy gweladwy i annog eraill i feddwl am newidiadau a'u gweithredu.

crispin and naomi.jpeg

Mae'r enillwyr yn derbyn aelodaeth WFRA am ddim am y flwyddyn nesaf ac arian tuag at wella neu annog eu camau gweithredu yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd ymhellach.