Canlyniadau Pencampwriaeth Pellter Hir Cymru 2026
Bannau Brycheiniog (34km/1700m) oedd y ras fynydd a ddewiswyd ar gyfer Pencampwriaeth Pellter Hir Cymru 2026. Cymerodd 40 o redwyr ran yn y ras glasurol hon ym Mharc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog yn ne Cymru gyda’r gobaith o gael eu coroni yn Bencampwyr Cymru ar ddiwrnod llaith o haf.

Roedd y ras yn cael ei rhedeg yn wrthglocwedd ac yn cynnwys wyth copa, gan ddechrau gyda Charn Pica fel y copa cyntaf, ymweld â’r brif grib yng nghanol y parc cenedlaethol, a Thor y Foel fel y copa olaf cyn disgyn tua’r llinell derfyn.
Llongyfarchiadau i enillwyr y Bencampwriaeth, Tony James (y dyn cyntaf, heb glwb) mewn amser o 3:38:42 a Hannah Large (y ferch gyntaf, Westbury Harriers) mewn amser o 3:41:56. Bethan Logan a Rhian Probert (y ddwy o glwb Mynydd Du) oedd yr ail a’r drydedd ferch yn y Bencampwriaeth ac Owain Williams (Rhedwyr Eryri) a Wyndham Turner (Mynydd Du) oedd yr ail a’r trydydd dyn. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y Bencampwriaeth, rhaid i redwyr fod yn aelodau cyflawn o CRhMC (WFRA) erbyn dyddiad penodol cyn y ras, a oedd yn golygu nad oedd y dynion a ddaeth yn gyntaf ac yn ail yn y ras yn gymwys.
Y rasys mynydd hir yw fy hoff rasys bob amser ac roedd hi’n wych bod yn ôl yn y Bannau Brycheiniog ar ôl ychydig o flynyddoedd i ffwrdd yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl rhoi genedigaeth. Doeddwn i heb redeg y ras yn wrthglocwedd o’r blaen ond fe wnes i wir fwynhau’r ddringfa fawr gyntaf at Garn Bica. Roeddwn i ar y blaen ar y copa ond roeddwn yn grediniol yr holl ffordd rownd fod Bethan yn mynd i hedfan heibio i mi. Fe gadwodd hynny fi’n gwthio’n galed! Roeddwn i’n falch o’r llinell gymerais i ar ôl croesi’r ffordd yn Nhorpantau ac roedd gen i rywfaint ar ôl ar gyfer dringfa dda i fyny Tor y Foel. Collais amser fel arfer ar y rhuthr i lawr i’r llinell derfyn ond cefais fy synnu’n llwyr ac roeddwn wrth fy modd o orffen yn Bencampwr Cymru. Roeddwn yn ffodus i gael un o’r rasys prin hynny ble mae pethau yn disgyn i’w lle ac mae’r corff yn teimlo’n gryf.
Mae wedi fy ysbrydoli i ganolbwyntio mwy ar y tymor rhedeg mynydd nesaf a thynnu’n ôl o wneud cymaint o rasys ultra hir. Rhedeg mynydd yn bendant yw’r hyn rwy’n ei fwynhau fwyaf ac rwy’n gyffrous i roi cynnig ar rai rasys newydd a cheisio gwella fy sgiliau wrth ddod i lawr y mynydd!
- Hannah Large (y ferch gyntaf)
Mae hi wedi bod yn flwyddyn anhygoel llawn hwyl yn ‘ymdrechu’n ofnadwy o galed’ yn rasys CRhMC (WFRA) ac roeddwn yn hynod falch o fy nghanlyniad yn gorffen yn drydydd ar y cyfan. Cefais fy synnu wrth sylweddoli yn ystod y gwobrwyo nad oedd y cyntaf a’r ail wedi cofrestru gyda CRhMC (WFRA) gan fy ngadael i fel Pencampwr Pellter Hir CRhMC (WFRA) ar gyfer 2026 (pob clod i ganlyniadau Huw Davies a Tom Scrivens yn y drefn honno).
Gyda’r diwrnod mor boeth, roedd hi’n ras oedd yn ffafrio’r rhai a arafodd leiaf a chynllunio eu cyflymder yn dda.Wedi ymdrech oedd o dan reolaeth ar y ddringfa hir gyntaf i fyny Carn Pica, gallwn symud yn dda ar hyd y copaon gyda digon yn fy nghoesau i wthio’n galed ar y disgynfeydd i gyd (y darnau gorau) gan ganfod fy hun yn codi drwy’r safleoedd am weddill y ras.
- Tony James (dyn cyntaf)

Roedd y gwobrau’n cynnwys tlysau parhaol a wnaed gan y rhedwr mynydd lleol a’r trefnydd rasys, Andy Creber, yn ogystal â chlociau, cwpanau wy a thlysau llechen pwrpasol a wnaed gan fusnes bychan teuluol ym Mhenmaenmawr, gogledd Cymru – Raven Eve Desings.
Dwedodd Trefnydd y Ras, Gary Davies:
Addaswyd fymryn ar lwybr traddodiadol y ras eleni er mwyn gorffen ym mhentref Tal-y-bont ar Wysg. Cawsom ein bendithio gyda thywydd da hefyd! Dwedodd y rhedwyr eu bod wrth eu boddau gyda’r cwrs ond doedden nhw ddim yn diolch i mi am ychwanegu trac Brinmore at y daith i’r llinell derfyn! Diolch enfawr i’r holl swyddogion cwrs a gwirfoddolwyr am wneud y ras yn llwyddiant.
Da iawn i bawb a gymerodd ran a llongyfarchiadau i’r holl enillwyr cyffredinol ac enillwyr y categorïau. Diolch i Drefnwyr y Ras, Gary a Dawn Davies, ac i bawb arall a gefnogodd y ras ar y diwrnod.
