22 Awst 2026

Galwad am wirfoddolwyr i ymuno â grŵp cyfieithu Cymraeg CRhMC

Rydym yn creu grŵp o wirfoddolwyr o’r gymuned rhedeg mynydd i gefnogi cyfieithu deunyddiau CRhMC i’r Gymraeg. Wyt ti’n gallu helpu? Croeso i aelodau ieuenctid hefyd!

Iaith Gwaith logo showing Cymraeg in orange speech bubble

Mae gennym fynediad yn barod i wasanaeth cyfieithu swyddogol am ddim drwy ‘Helo Blod’ Llywodraeth Cymru, ond mae’n gyfyngedig ac rydym eisiau dod â grŵp o bobl at ei gilydd fyddai’n gallu cynnig cefnogaeth yn ôl y galw.

Bydd y gwaith cyfieithu’n bennaf yn golygu cyfieithu gwefan CRhMC a chynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, ond gallai gynnwys deunyddiau printiedig a mathau eraill o gynnwys digidol hefyd. Mae’n debygol y bydd hyn yn gymysgedd o waith parhaus a gwaith gyda rhywfaint mwy o frys arno.

Wyt ti’n gallu helpu? Diolch!

Cysyllta gydag ysgrifenyddes CRhMC, Briony Latter.